Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025
Pwynt Craffu ar Rinweddau 2: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt craffu ar rinweddau a’r pryderon ynghylch yr amrywiadau a gafwyd wrth geisio cael mynediad at y diwygiadau i Atodlen 1 i Ddeddf Caffael 2023 drwy legislation.gov.uk a dwy wefan sy’n seiliedig ar danysgrifiadau.
Mae detholiad 1 yn adlewyrchiad cywir o’r gyfraith sydd mewn grym o 13 Ionawr 2026. Yn ogystal, ar adeg llunio’r ymateb hwn, nodwn ei bod yn ymddangos bod Westlaw hefyd erbyn hyn yn dangos paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2023 yn gywir.
Bu cyfreithwyr drafftio Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol a chyfreithwyr yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Rheoliadau yn cyflawni bwriadau polisi’r ddwy Lywodraeth o fewn cyfyngiadau’r pwerau galluogi ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 2023.
Y bwriad oedd sicrhau bod y symiau trothwy yn Atodlen 1 yr un fath ar gyfer pob awdurdod contractio. Er mwyn cyflawni hyn, roedd angen i’r Offerynnau Statudol sy’n cynnwys y Rheoliadau gyd-fynd â’i gilydd er mwyn cynhyrchu’r canlyniad cywir yn Atodlen 1 i Ddeddf 2023. Gan hynny, gwnaed O.S. Llywodraeth y DU gyntaf i amnewid y symiau trothwy perthnasol mewn ffordd a oedd yn cydnabod y cyfyngiadau ar bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol. Yna, gwnaeth O.S. Llywodraeth Cymru hepgor y cyfyngiad hwnnw pan gafodd y symiau trothwy a amnewidiwyd eu cymhwyso. Y bwriad oedd cynhyrchu un tabl yn Atodlen 1 a fyddai’n nodi bod y symiau trothwy yr un fath ar gyfer pob awdurdod contractio. Mae hyn wedi ei gyflawni fel y cydnabyddir gan y Pwyllgor ac fel sydd i’w weld ar legislation.gov.uk (ac ar Westlaw hefyd erbyn hyn).
Ystyriwyd dulliau eraill o ddrafftio a oedd yn cynnig diwygiadau i’r tabl mewn ffordd a oedd yn cyfyngu ar gymhwyso’r diwygiadau i Gymru yn unig. Fodd bynnag, roedd cyfreithwyr drafftio yn ymwybodol bod hyn yn groes i’r canllawiau a nodir ym mharagraff 7.28(3) o Drafftio Deddfau i Gymru.
O ran sylwadau mwy cyffredinol y Pwyllgor ynghylch cyfrifoldebau’r Cwnsler Cyffredinol o dan adran 1 o Ddeddf 2019, nodwn fod y Rheoliadau wedi eu gwneud ar 17 Rhagfyr a’u bod wedi dod i rym ar 31 Rhagfyr 2025. Fel y nodwyd gan y Pwyllgor, mae’r diwygiadau eisoes wedi eu cymhwyso i’r ffordd y mae’r ddeddfwriaeth wedi’i chyflwyno ar safle legislation.gov.uk. Mae hyn ymhell o fewn yr amserlenni a osodwyd gan y tîm golygyddol yn Yr Archifau Gwladol, sydd â’r nod o ddiweddaru deddfwriaeth ddiwygiedig o fewn tri mis ar y mwyaf i ddyddiad dod i rym diwygiadau newydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, mae hyn yn cael ei wneud yn llawer cyflymach. Ym mhob achos, mae’r neges “newidiadau i ddeddfwriaeth” yn rhoi gwybod i ddarllenwyr os oes unrhyw effeithiau yn yr arfaeth. Fel y gŵyr Aelodau, daeth adran 37V o Ddeddf 2019 i rym ar 1 Ionawr 2026 ac, am y tro cyntaf, mae’n gosod dyletswyddau ar Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru i gyhoeddi deddfwriaeth Cymru fel y’i diwygiwyd. Er na fyddai hyn yn berthnasol i Ddeddf 2023, mae’r Llywodraeth ac yn wir Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn croesawu cryfhau y trefniadau fel hyn ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth ar ffurf gyfredol.